Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion yn dilyn lladrad arfog ym Mhorthcawl bore ma.

Roedd tri dyn wedi mynd i siop emau’r Clock Shop ym Mhorthcawl tua 10.10yb bore Mercher, gan glymu dau aelod o staff cyn dianc gyda swm sylweddol o emwaith.

Fe adawodd y tri’r siop ar droed.

Roedden nhw i gyd yn gwisgo crysau gwynt, a dau yn gwisgo jîns ac un arall yn gwisgo trowsus tywyll. Roedd gan ddau o’r dynion wallt olau ac roedd gan y trydydd dyn wallt tywyll.

Roedd y tri yn siarad mewn Iaith dramor a Saesneg bratiog.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un  sydd heb gysylltu â nhw’n barod ac a allai fod wedi gweld y dynion ym Mhorthcawl bore ma.

Cafodd y tri eu gweld y tro diwethaf ger archfarchnad Co-op yn y dref.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu’n ddienw i Taclo’r Taclau ar 0800 555111.