Bradley Manning
Mae cyfreithwyr y milwr Bradley Manning yn ceisio lleihau’r ddedfryd bosib mae’n ei wynebu am ollwng dogfennau cyfrinachol yr Unol Daleithiau i wefan Wikileaks.

Mae’n ymddangos bod cyfreithwyr Manning, a gafodd ei fagu am gyfnod yn Sir Benfro, yn ceisio cyfuno rhai o’i ddedfrydau.

Mae’r gwrandawiad dedfrydu mewn llys milwrol wedi dechrau heddiw yn Fort Meade, ger Baltimore. Cafwyd Bradley Manning yn euog ddoe o 20 cyhuddiad yn ei erbyn gan gynnwys ysbio, dwyn a thwyll cyfrifiadurol.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad dedfrydu barhau tan 23 Awst.

Ond fe’i cafwyd yn ddieuog o’r prif gyhuddiad yn ei erbyn – helpu’r gelyn.

Gobaith ei gyfreithwyr yw cyfuno dau o’r chwe chyhuddiad am ysbio a dau o’r pum cyhuddiad o ddwyn. Os yw’r barnwr yn caniatáu hynny, fe allai olygu bod Manning yn wynebu 116 mlynedd yn y carchar yn hytrach na 136 o flynyddoedd.

Roedd Manning, dadansoddwr cudd wybodaeth, wedi rhyddhau dogfennau’n ymwneud ag ymgyrchoedd milwrol yr UDA yn Afghanistan ac Irac.