Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru wedi methu eu targed i ymateb i alwadau brys o fewn wyth munud am y 13 mis yn olynol.
Mae ffigyrau ar gyfer mis Mehefin yn dangos fod 62.6% o ambiwlansys wedi ymateb i alwadau brys o fewn yr amser penodol, cynnydd o 0.1% ar ffigyrau mis Mai ond yn fyr o’r targed o 65%.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd mis Mehefin yn 34,000, gostyngiad o 2.8% ers mis Mai tra bod 80% o alwadau brys wedi cael eu hateb o fewn 12 munud.
Dywedodd llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar AC: “Mae 13 mis o fethu targedau ar gyfer galwadau brys yn warthus. Mae’n hollbwysig fod y Gweinidog Iechyd yn mynd i’r afael â’r broblem, sef toriadau’r Blaid Lafur a’r pwysau maen nhw’n ei roi ar ysbytai a gweithwyr rheng flaen.”
Dywedodd Darren Millar fod israddio unedau damweiniau brys yn mynd i waethygu’r sefyllfa a chynyddu’r amser mae’n cymryd i deithio i ysbytai. Meddai: “Mae’n hen bryd am newidiadau mawr a byddaf yn gweithio â’r gweinidog i sicrhau bod y newidiadau a gyhoeddwyd yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosib.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn derbyn fod amser ymateb cenedlaethol ambiwlansys wedi gwella ym mis Mehefin 2013 o’i gymharu â mis Mai, a’r gostyngiad o 220% o oriau colledig y gwasanaeth fis Mehefin o’i gymharu â mis Ebrill.
“Ond er y gwelliant, mae’n rhaid i fyrddau iechyd lleol weithio’n agos â’r Gwasanaeth Ambiwlans i ddarparu gwasanaeth amserol i gleifion sydd angen ymateb brys.”