Corporal James Dunsby
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw’r trydydd milwr fu farw ar ôl bod yn ymarfer ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw’r Corporal James Dunsby, 31, yn yr ysbyty ddoe lle’r oedd wedi bod mewn cyflwr difrifol ers cymryd rhan yn hyfforddi ar fynydd Pen y Fan ar 13 Gorffennaf – un o ddyddiau poetha’r flwyddyn.
Roedd Edward John Maher a’r Is-gorpral Craig John Roberts, o Fae Penrhyn ger Llandudno, hefyd wedi marw yn ystod hyfforddiant milwrol ar gyfer yr SAS Diriogaethol.
Mewn datganiad trwy’r Weinyddiaeth Amddiffyn dywedodd ei deulu fod gan James Dunsby “frwdfrydedd heintus” tuag at fywyd a’i fod yn fab, brawd a gŵr cariadus.
Nid yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi o le yr oedd James Dunsby. Mae disgwyl i gwest i’w farwolaeth gael ei agor yn y man.
Cwest
Mewn cwest i farwolaeth Edward John Maher a Craig Roberts ym Mhowys, dywedodd y crwner bod archwiliadau post mortem wedi methu a nodi beth achosodd marwolaeth y ddau filwr.
Yn ôl llygad dystion roedd dau filwr wedi cael eu gweld yn apelio am ddŵr.
Bu farw’r Is-gorpral Craig Roberts ar y mynydd am 5.15yh tra bod Edward Maher wedi marw tair awr yn ddiweddarach yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ieuan Wyn Jones o Heddlu Dyfed Powys wrth y cwest ar 24 Gorffennaf y byddai rhagor o brofion yn cael eu cynnal i ddarganfod sut y bu farw’r ddau.
Yn sgil eu marwolaethau, mae ymchwiliadau ar y gweill gan yr heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch. Fe fydd crwner Powys Louise Hunt hefyd yn lansio ymchwiliad ei hun fel rhan o’r Ddeddf Hawliau Dynol.