Mae’r elusen ailgylchu Cylch wedi cadarnhau y bydd pob un o’u staff yn colli eu swyddi, ar ôl i’r Comisiwn Elusennol ddechrau ymchwiliad i waith y grŵp.

O ganlyniad, mae Cylch, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi penderfynu na fydd yn gwneud cais am ragor o arian gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod 2012, derbyniodd Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Elusennau gwynion am wrthdaro buddiannau posib yn ymwneud â rôl Prif Weithredwr Cylch a’i rôl fel cadeirydd cwmni plastig Plastics Sorting Ltd (PSL).

Cafodd ymchwiliad naw mis ei gynnal gan Wasanaethau Archwiliad Mewnol Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn casglu gwybodaeth gan weithwyr ac ymddiriedolwyr Cylch.

Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd y Comisiwn Elusennau eu bod yn cychwyn ymchwiliad i waith y grŵp.

Mae Cylch wedi mynnu nad oes natur droseddol i’r ymchwiliad.

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd Cylch ar ei wefan nad oedd bwriad ganddyn nhw i gyflwyno cais am grant gan Lywodraeth Cymru ac yn sgil hyn bydd y saith aelod o staff yn cael eu diswyddo o fis Medi 2013 ymlaen.

Meddai:  “Gydag edifeirwch mae’n rhaid i ymddiriedolwyr Cylch gyhoeddi fod holl staff y cwmni yn colli eu gwaith. Ers sefydlu Cylch 15 mlynedd yn ôl, mae’r cwmni wedi ei wasanaethu gan lawer o staff a gwirfoddolwyr. Mae’r ymddiriedolwyr eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio i Cylch yn y gorffennol a diolch i’r rhai a fydd yn gorffen ym mis Medi.”

Mae Cylch wedi dechrau ymchwiliad mewnol eu hunain i’r achosion a godwyd gan ymchwiliadau blaenorol i’r cwmni.