Cartref gofal Bryn Estyn ger Wrecsam
Mae dyn 71 oed a gafodd ei holi gan dditectifs ynglŷn â honiadau hanesyddol o gam-drin plant yng ngogledd Cymru wedi cael ei ail-arestio.

Cafodd y dyn ei arestio’n wreiddiol yn Ipswich, Suffolk ym mis Ebrill ar amheuaeth o nifer o ymosodiadau rhywiol difrifol.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Gorffennaf ond ei arestio unwaith eto yn Suffolk.

Y dyn oedd y cyntaf i gael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial i honiadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Mae ditectifs yn ymchwilio i 140 o honiadau yn ymwneud a 18 o gartrefi gofal, gan gynnwys Bryn Estyn ger Wrecsam, rhwng 1963 a 1992.

Mae tri dyn arall wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad a’u rhyddhau ar fechnïaeth.