Jeremy Hunt
Mae’r Uchel Lys wedi dyfarnu bod penderfyniad yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt i israddio gwasanaethau iechyd mewn ysbyty yn Llundain yn anghyfreithlon.

Roedd ’na ddathlu yn y llys wrth i’r barnwr ddyfarnu bod Jeremy Hunt wedi gweithredu y tu hwnt i’w bwerau pan gyhoeddodd yn y Senedd ym mis Ionawr y byddai unedau brys a mamolaeth yn Ysbyty Lewisham yn ne-ddwyrain Llundain yn cael eu hisraddio.

Dywedodd Mr Ustus Silber bod Jeremy Hunt wedi mynd yn groes i’r Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 2006.

Mae’r dyfarniad yn fuddugoliaeth i Fwrdeistref Lewisham ac Ymgyrch Achub Ysbyty Lewisham, grŵp ymgyrchu oedd yn cynnwys cleifion, grwpiau cymunedol, meddygon teulu, meddygon ysbyty, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill.

Roedd y grŵp wedi dadlau y byddai’r newidiadau yn golygu bod yn rhaid i bobl deithio ymhell i ffwrdd i gael mynediad at wasanaethau angenrheidiol.

Roedd y newidiadau’n rhan o ail-strwythuro ehangach o wasanaethau yn Llundain yn dilyn methiant Ymddiriedolaeth Iechyd y GIG yn Ne Llundain a gafodd ei roi yn nwylo’r derbynnydd yn dilyn colledion o £1 miliwn yr wythnos.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn y dyfarniad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd eu bod yn siomedig gyda’r penderfyniad ond y byddan nhw’n parhau i gyflwyno’r newidiadau pellach i wasanaethau iechyd.