Mae dynes o Brydain wedi marw wrth geisio nofio’r Sianel er mwyn codi arian ar gyfer elusen, meddai’r Swyddfa Dramor.

Roedd Susan Taylor, oedd yn ei 30au, yn nofio o dan oruchwyliaeth Cymdeithas Nofio’r Sianel, sy’n awdurdodi ymdrechion i nofio’r Sianel yn swyddogol. Ond fe aeth i drafferthion ger arfordir Ffrainc tua 5.30yh ddoe.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty yn  Boulogne-sur-Mer gerllaw ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn ymwybodol o farwolaeth Susan Taylor a’u bod wedi cysylltu â’i theulu.