Bydd plismyn o Gymru yn cael eu hanfon i Ogledd Iwerddon i gefnogi’r heddlu yno ar ôl noson arall o derfysg ar strydoedd Belfast.
Mae disgwyl i gannoedd o swyddogion yr heddlu o Gymru, Lloegr a’r Alban gael eu defnyddio i gryfhau Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wrth i’r ddinas ddygymod â thrais yn dilyn anghydfod ynglŷn â gorymdeithiau’r Urdd oren. .
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Will Kerr: “Rydym yn debygol o ddod a mwy o swyddogion yr heddlu yma yn ystod yr wythnos a chyhyd a bydd yn angenrheidiol.
“Mae’r Prif Gwnstabl wedi bod yn glir – bydd digon o adnoddau ar strydoedd Belfast tra bod angen gwarchod ein cymunedau a’n swyddogion ar draws Gogledd Iwerddon.”
Mae’r trafferthion wedi bod ar eu gwaethaf yng ngogledd a dwyrain Belfast lle protestwyr yn taflu bomiau petrol at yr heddlu.