Mae saith o bobol wedi derbyn triniaeth am effeithiau mwg yn dilyn tân mewn ffermdy ger Wrecsam neithiwr.

Cafodd y ffordd ym Mwynglawdd ei chau ar ôl i’r gwasanaeth tân gael eu galw toc cyn 11 neithiwr.

Dydy’r tân ddim yn cael ei drin fel un amheus.