Garry Monk
Mae capten Abertawe, Garry Monk wedi trosglwyddo capteniaeth y tîm i Ashley Williams ar gyfer y tymor nesaf.
Ond mae’n bwriadu parhau yn ei rôl fel capten swyddogol y clwb.
Fe fu Monk yn gapten y tîm a’r clwb y tymor diwethaf, er na chwaraeodd yn rheolaidd i’r tîm.
Ond fe fu’n gapten ar gyfer y gemau y chwaraeodd e ynddyn nhw.
Ond dywedodd Monk ei bod hi’n bryd rhoi’r cyfle i Williams dderbyn y rôl yn barhaol, ac na fyddai’n gapten y tymor hwn pe bai’n chwarae.
Ashley Williams oedd y capten ar y cae yn ystod y daith ddiweddar i’r Iseldiroedd, er bod Monk hefyd ar y cae.
Bu Monk yn gapten am saith tymor, sy’n cynnwys dau ddyrchafiad a buddugoliaeth yng Nghwpan Capital One y tymor diwethaf.
Dywedodd Garry Monk: “Penderfyniad personol gen i oedd hwn.
“Y ffordd dwi’n edrych ar fod yn gapten, fe ddylech chi fod ar y cae yn gyson.
“Mae Ash wedi bod ar y cae yn gyson dros gyfnod o nifer o flynyddoedd.”
Addawodd y byddai’n arweinydd ar y cae, er nad yn gapten.
Ymunodd Garry Monk ag Abertawe ar ddechrau tymor 2004-05 ar drosglwyddiad yn rhad ac am ddim, ar ôl cael ei ryddhau gan Southampton.
Arwyddodd gytundeb newydd ym mis Chwefror a fydd yn ei gadw ar y Liberty tan haf 2015.
Mae’n un o dri chwaraewr – ynghyd ag Alan Tate a Leon Britton – sydd wedi chwarae i Abertawe ym mhob un o’r pedair cynghrair.