Mae’r Gweilch wedi arwyddo olwr amryddawn Ffiji, Aisea Natoga.

Mae’r chwaraewr 22 oed, sy’n gallu chwarae yn safle’r canolwr, cefnwr neu asgellwr, wedi cynrychioli ei wlad ar lefel dan 18 a dan 20, yn ogystal â’r tîm saith bob ochr llawn.

Eisoes, mae e wedi ennill pum cap llawn dros ei wlad.

Gwnaeth Natoga osod ei stamp ar Gwpan Gwledydd y Cefnfor Tawel yn ddiweddar, wrth i’w wlad ennill y gystadleuaeth.

Fe fydd rhaid iddo aros am fisa cyn y caiff arwyddo’r cytundeb gyda’r Gweilch.

‘Cyffrous’

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau’r Gweilch, Andy Lloyd: “Rydyn ni wedi bod yn dilyn Aisea ers cryn amser felly rydyn ni’n falch o fod wedi sicrhau ei wasanaeth i’r Gweilch.

“Mae nifer o chwaraewyr o Ffiji wedi gwneud cryn argraff ar rygbi yn Ewrop yn ystod y tymhorau diwethaf.

“Mae’n gweddu i’r hyn rydyn ni’n trio ei wneud yma fel tîm sy’n dal yn awyddus i gystadlu ym mhopeth.

“Mae’n ychwanegu rhywbeth at ein llinell ôl ac yn rhoi dyfnder i ni mewn safleoedd allweddol nad oedd gennym y tymor diwethaf.

“Rydyn ni wir yn gyffrous am yr effaith a allai ei chael yng nghrys y Gweilch.”