Dai Greene gafodd y gorau ar ei gyd-Gymro, Rhys Williams, ac ennill y ras 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaeth Prydain yn Birmingham heddiw.
Fe ddaeth y Cymry’n gynta’ ac yn ail yn y pencampwriaethau – ac mae’n golygu eu bod nhw ill dau wedi’u dewis ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd yn Mosgow.
Fe groesodd Dai Greene y llinell derfyn mewn 48.66 eiliad, cyn i Rhys Williams ddod i mewn ar ei sodlau mewn 48.85 eiliad.