Warren Gatland
Mae clo Iwerddon a’r Llewod, Paul O’Connell wedi beirniadu hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland am beidio dewis y canolwr Brian O’Driscoll ar gyfer y trydydd prawf yn Awstralia.
Er gwaethaf y dewis, cipiodd y Llewod fuddugoliaeth o 41-16 i ennill y gyfres o 2-1, y tro cyntaf iddyn nhw ennill cyfres ers 16 o flynyddoedd.
Doedd O’Driscoll ddim wedi’i gynnwys yn y garfan o 23, hyd yn oed.
Dywed O’Connell fod hynny wedi tynnu ychydig o sglein oddi ar y fuddugoliaeth iddo fe’n bersonol.
Dywedodd wrth Today FM yn Iwerddon: “Fe ges i sioc a siom.
“Ro’n i’n meddwl bod Brian yn chwarae’n dda.
“Os edrychwch chi ar y ddau brawf cyntaf, doedd dim llawer o feddiant o safon i’r llinell ôl.”
Cafodd y Cymro Jonathan Davies ei ddewis yn lle O’Driscoll, ac fe sgoriodd un o bedwar cais yn y fuddugoliaeth fawreddog.