Mae’r nofiwr Paralympaidd Matt Whorwood wedi cael gradd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Mecanyddol o Brifysgol Abertawe.
Tra’n fyfyriwr yn y ddinas, treuliodd Whorwood oriau yn gwneud y defnydd mwyaf o’r cyfleusterau chwaraeon oedd ar gael gan y Brifysgol, yn enwedig Pwll Cenedlaethol Cymru a roddodd sylfaen hyfforddiant da iddo cyn y gemau Paralympaidd.
Yn sicr, fe wnaeth yr holl ymarfer dalu ar ei ganfed gan iddo gipio’r fedal efydd yn y Gemau Paralympaidd llynedd. Hefyd, fe wnaeth ennill dwy fedal efydd yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008.
Yn y diwedd, fe benderfynodd adael y nofio am ychydig er mwyn canolbwyntio ar ei radd. Ac yn awr, yn ogystal ag ennill gradd anrhydedd Dosbarth Cyntaf, mae Whorwood eisoes wedi cael swydd yn Panasonic yng Nghaerdydd.
‘‘Byddaf bob amser yn edrych yn ôl ar fy amser ym Mhrifysgol Abertawe gydag atgofion melys,” meddai’r seren baralympaidd o Gei Newydd yng Nghernyw.
“Bu’n gyfle i ddatblygu fy hun fel person ac i ddechrau fy ngyrfa yn y maes peirianneg. Rwy’n ddyledus iawn o ran fy llwyddiannau nofio i gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol a’r holl gymorth a gefais trwy gydol fy ngyrfa nofio yn y Brifysgol,’’ ychwanegodd.