Gavin Henson
Mae Clwb Rygbi Caerfaddon wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ffrwgwd yn ymwneud â Gavin Henson a chwaraewyr eraill mewn bar.
Cafodd yr heddlu eu galw i dafarn ‘The Pig and the Fiddle’ yn dilyn adroddiadau o ‘ymddygiad ymosodol’ nos Fercher.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Henson wedi cael ei daro gan un o’i gyd-chwaraewyr.
Wrth i’r alwad gael ei chofnodi, fe wnaeth y grŵp adael y dafarn, fel nad oedd rhaid i’r heddlu fynd allan.
“Rhywbeth cymdeithasol” y tu allan i reolaeth y clwb oedd y digwyddiad, yn ôl Prif Weithredwr Caerfaddon, Nick Blofeld.
Dywedodd ei fod yn ymwybodol o’r mater ddoe, ac ychwanegodd y byddai’n siarad gyda’r chwaraewyr heddiw.
Mae Henson wedi ymddangos 31 o weithiau i Gymru ac ymunodd â Chaerfaddon ym mis Mehefin ar ôl gadael Cymry Llundain ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Adeg ei arwyddo, fe ddywedodd Nick Blofeld fod Henson “yn fwy aeddfed” erbyn hyn.