Er i Murray Goodwin sgorio 50 o rediadau i Forgannwg, colli fu hanes y sir o 43 o rediadau yn erbyn Hampshire yn Stadiwm Swalec ddoe.
Yr oedd angen 221 o rediadau ar Forgannwg oddi ar 90 pelawd ar ddiwrnod ola’r gêm. Cafodd y tim cartref ei fowlio allan i gyd am 177, gyda James Tomlinson yn cymryd pum wiced am 49 o rediadau.
Yr oedd Morgannwg yn awyddus iawn i guro Hampshire yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1985. Daeth ail fatiad Hampshire i ben pan ddaliwyd Danny Briggs gan Gareth Rees oddi ar fowlio Marcus North a gipiodd 5 wiced yn y batiad.
Erbyn amser te yr oedd Morgannwg yn 138 am chwe wiced. Daeth ail fatiad Morgannwg i ben ychydig cyn 5 o’r gloch pan oedd Mike Reed allan am goes o flaen wiced i’r troellwr Briggs. Cafodd Hampshire y fuddugoliaeth o 43 rhediad gyda 22 o belawdau yn weddill.
Bydd Morgannwg nawr yn canolbwyntio ar y gem 20 pelawd yn erbyn Gwlad yr Haf heno yn y Stadiwm Swalec.