Alan Tate
Mae rheolwr Abertawe wedi dweud wrth y chwaraewyr sydd heb deithio i’r Iseldiroedd, i chwilio am glybiau newydd.
Golyga hynny fod y gwas ffyddlon Alan Tate yn gorfod gadael ar ôl chwarae 340 o weithiau dros y clwb.
Yn ogystal â Tate cafodd Kemy Agustien, Luke Moore, Leroy Lita a Curtis Obeng eu gadael adref.
Mae’n debyg mai hepgor Moore fydd yn synnu llawer gan iddo ddechrau chwe gêm a sgorio pum gôl y flwyddyn ddiwethaf tra’r oedd Agustien yn cael ei gynnwys yn y garfan yn rheolaidd.
Fe ddaeth Kyle Bartley o Arsenal yr haf diwethaf am £1 miliwn ac eisioes mae wedi ymuno â Birmingham ar fenthyciad tymor hir.
‘‘Fe wnes i siarad gyda rhai o’r chwaraewyr ym mis Ebrill, roedd Tate a Bartley yn gwybod ein bod yn awyddus i ddod â math gwahanol o amddiffynnwyr i fewn,” meddai Michael Laudrup. “Roeddwn angen rhywun ychydig yn gyflymach ac fe wnaeth y ddau ddweud nad oedden nhw eisiau bod y pedwerydd neu bumed dewis.”
Mae’n ymddangos bod Laudrup wedi penderfynu ar ddyfodol Moore, a lofnodwyd nôl ym mis Ionawr 2011 am £850,000.
Erbyn hyn mae Moore wedi cael ei gysylltu gyda Hull a Crystal Palace ymhlith eraill.
Nid yw Laudrup wedi cael cyfarwyddyd i dorri’r bil cyflog, ond bydd y clwb yn ymwybodol o’r angen i arbed ar gyflogau’r chwaraewyr hynny sy’n annhebygol o gael eu cynnwys.
Ac mae gan Laurdrup enw fel rheolwr sy’n hoffi cadw carfan fach.
Yn y cyfamser, mae Abertawe yn gwadu fod ganddyn nhw bellach ddiddordeb yn y chwaraewr canol cae Esteban Granero o QPR. Mae’n debyg mai ail opsiwn oedd y chwaraewr hwnnw, I’w arwyddo petaen nhw wedi methu arwyddo Jonjo Shelvey o Lerpwl.