Mae Gleision Caerdydd yn gobeithio cadw Leigh Halfpenny ym Mharc yr Arfau am gyfnod hir, a rhoi taw ar ddiddordeb clybiau Ffrengig yn seren y Llewod.

Y cefnwr oedd chwaraewr y gyfres wrth i’r Llewod guro Awstralia 2-1 yn y gemau prawf.  Ond gydadim ond blwyddyn o’i gytundeb yn weddill, mae’r Glesion yn wynebu brwydr i gadw’r chwaraewr ifanc.

‘‘P’un ai peidio fydd Leigh yn aros dw i ddim yn gwybod, ond mae’n Gymro ac rydym yn obeithiol y bydd yn ymrwymo ei hun i’r Gleision,’’ meddai Prif Weithredr y Gleision, Richard Holland wrth bapur newydd yr Independent.

‘‘Rydym eisioes wedi cynnal trafodaethau a byddwn yn gweithio’n galed gyda Leigh i geisio sicrhau ei ddyfodol yma yng Nghaerdydd ac yn ogystal yng Nghymru.”