Mae Clwb Pêl-droed Prestatyn trwyddo i’r rownd nesaf yng nghystadleuaeth Europa ar ôl ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn FK Metalurgs yn Latvia neithiwr.
Yn y munudau ola’r fe wnaeth Neil Gibson sgorio i unioni’r sgôr 2-2 dros y ddau gymal, gan achosi amser cyhwanegol.
Nid oedd modd gwahanu’r ddau dîm yn yr hanner awr ychwanegol, ac fe wnaeth Prestatyn lwyddo sgorio pedair gôl o’r smotyn. Tair gafodd FK Metalurgs ac felly maen nhw allan.
Dim ond canmoliaeth oedd gan reolwr Prestatyn ar gyfer ei chwaraewyr.
‘‘Fyddwn ni byth yn digalonni mewn unrhyw sefyllfa, rydym o hyd yn cadw i fynd,” Chris Hughes.
“Mae gennym yr agwedd sydd yn gwneud i ni barhau â’r gêm ac i gamu i’r rownd nesaf.
‘‘Rydym wedi creu hanes ac mae’n deimlad anhygoel. Dw i prin yn medru siarad, alla i ddim credu yr hyn a wnaethon ni,’’ ychwanegodd Hughes.
Nos Iau nesaf fe fydd Prestatyn yn herio FC Rijeka o Croatia yn y rownd nesaf.
Bala’n boddi yn ymyl lan
Mae’r Bala wedi cyrraedd diwedd eu taith yng nghystadleuaeth Europa ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn FC Levadia Tallinn yn Estonia neithiwr o 3-1.
Fe wnaeth Rimo Hunt sgorio hatric I’r tîm cartref gan wneud hi’n 3-0 am gyfnod nes i’r chwaraewr 17 oed, Ryan Jones sgorio yn y funudau olaf o’r gêm i’w gwneud yn 3-1.
Roedd y Bala wedi cipio’r cymal cyntaf 1-0 gartref, gan olygu mae 3-2 oedd y sgôr terfynol.
‘‘Ar ôl chwarae mor dda yr wythnos diwethaf, roedd yr hanner cyntaf yn ofnadwy, digwydd bod mai un o’r dyddiau yna oedd hi. Ond rydym yn obeithiol y byddwn nôl y flwyddyn nesaf,’’ meddai Cadeirydd Bala, Ken Thomas.