Gerald Davies
Mae cyn-asgellwr Cymru a’r Llewod, Gerald Davies wedi derbyn Gradd LLD Er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Derbyniodd ei radd gan yr Adran Beirianneg heddiw.

Cafodd ei eni yn Llansaint yn Sir Gaerfyrddin, ac fe astudiodd yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin cyn derbyn ysgoloriaeth chwaraeon i fynd i Brifysgol Loughborough.

Ymddangosodd yng nghrys Cymru am y tro cyntaf fel canolwr yn 1966, ond symudodd i’r asgell ar gyfer taith i Awstralia a Seland Newydd yn 1969.

Cynrychiolodd Brifysgol Caergrawnt yng ngêm y Prifysgolion yn erbyn Rhydychen.

Bu’n gapten ar Gaerdydd am dri thymor yn y 1970au.

Chwaraeodd 46 o weithiau dros Gymru, gan sgorio 20 cais yn ystod yr ‘Oes Aur’, oedd yn record roedd e wedi’i rhannu gyda Gareth Edwards am ddegawd a hanner cyn i Ieuan Evans ei thorri.

Sgoriodd dri chais i’r Llewod mewn pum gêm.

Daeth ei yrfa ryngwladol i ben yn 1978 yn Awstralia.

Cynrychiolodd y Llewod yn 1968 a 1971, ond tynnodd yn ôl o deithiau i Dde Affrica yn 1974 a 1977 am resymau gwleidyddol.

Bu’n rheolwr y daith ddiweddaraf i Awstralia, pan enillodd y Llewod y gyfres o 2-1.

Roedd e hefyd yn rheolwr ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Bellach, mae’n newyddiadurwr ac mae’n golofnydd rygbi i’r Times.

Derbyniodd CBE yn 2002, ac mae’n aelod o Orsedd y Beirdd.

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd: “Rwy wrth fy modd yn cael derbyn y Radd Er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

“Fel cyn-athro, mae’n bleser arbennig i gael fy anrhydeddu gan sefydliad dysg.

“Mae Abertawe wedi cyfrannu cymaint at fyd rygbi dros y degawdau.

“Roedd hi’n fraint gen i chwarae ochr yn ochr â mawrion Abertawe fel Mervyn Davies, ac roedd carfan y Llewod yn Awstralia yn cynnwys graddedigion o Brifysgol Abertawe a chwaraewyr eraill o’r ddinas.

“Felly mae’n bleser i gael fy nghysylltu ag Abertawe ac i dderbyn y Radd Er Anrhydedd.”