Mae ’na ddarogan y bydd newyddion drwg am gyflwr yr economi bore ma wrth i ffigurau swyddogol gael eu cyhoeddi a fydd yn dangos a yw’r DU wedi llwyddo i osgoi chwarter arall o ddiffyg twf.

Mae economegwyr yn pryderu bod dirwasgiad arall ar y gorwel yn dilyn rhybuddion am dwf bregus yr economi ac israddio statws credyd AAA y DU wythnos ddiwethaf.

Mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn rhagweld y bydd twf o 0.1% mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yn nhri mis cynta’r flwyddyn a fyddai’n golygu bod yr economi wedi llwyddo i osgoi trydydd dirwasgiad.