Dewi Pws
Bydd y cerddor a’r diddanwr Dewi ‘Pws’ Morris yn mynd i stiwdio Fflach yn Aberteifi wythnos yma i recordio cân arbennig i Ras yr Iaith.
Mae Dewi Pws wedi cyfansoddi’r gân er mwyn hyrwyddo ‘fun run’ relay dros y Gymraeg fydd yn rhedeg o Fachynlleth i Aberteifi rhwng 13 – 15 Medi eleni.
Mae Ras yr Iaith wedi ei hysbrydoli gan rasys tebyg yng Ngwlad y Basg, Llydaw a’r Iwerddon ac mae’r trefnwyr eisiau codi hyder i siarad yr iaith, codi proffil y Gymraeg a dangos fod miloedd yn cefnogi’r iaith.
Mae un o’r trefnwyr, Siôn Jobbins, wedi rhedeg mewn ras debyg yn yr Iwerddon.
“Bues i yn yr An Rith llynedd gan redeg drwy ddinas Belffast ac yn nhref Monaghan. Mae’r ffaith iddi basio drwy Ogledd Iwerddon, sy’n rhannu’r un rheolau a deddfau â ni yn ddefnyddiol,” meddai.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio cychwyn y ras o Senedd-dy Glyndŵr ym Machynlleth ddiwedd pnawn Gwener 14 Medi, a gorffen yn Aberteifi dydd Sul 15 Medi.
Noddi 1Km
Syniad y ras yw fod clybiau, busnesau, ysgolion, sefydliadau neu deuluoedd yn gallu noddi a rhedeg 1km o’r daith.
“Bydd pobl yn gallu noddi un cilomedr am £50,” meddai Siôn Jobbins.
“Gall mwy nag un person – clwb pêl-droed lleol, efallai, neu gangen o Merched y Wawr – rhedeg yr 1km yno. Byddant wedyn yn pasio’r baton ymlaen i redwyr y cilomedr nesaf.”
Mae croeso hefyd i bobl barhau i redeg gyda’r Ras wedi hynny am ddim cost ychwanegol.
“O gofio newyddion digalon y Cyfrifiad bwriad y ras yw codi hyder, ymwybyddiaeth ac arian i’r Gymraeg,” meddai Siôn Jobbins.
“Rydym wedi dechrau creu pwyllgorau bro ar gyfer pob cymal o’r ras ond rydym am ddenu cymaint o bobl â phosib i redeg neu i helpu. Bydd yn ffordd wych o dynnu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd ac yn ddatganiad gweledol, swnllyd a hwyliog o fywyd yn yr iaith.”
Bydd y ras yn cael ei gweinyddu gan Cered – Menter Iaith Ceredigion gyda chydweithrediad Menter Iaith Sir Benfro, Menter Iaith Gorllewin Sir Gaerfyrddin, a Menter Iaith Maldwyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfrif Twitter ras yr iaith: www.twitter.com/rasyriaith