Mae dyn o Ben Llŷn wedi marw ar ôl i’w gar adael y ffordd ger pentref Mynytho ddoe.

Roedd John Glyn Jones yn 69 oed a chafodd ei daro’n wael wrth olwyn y Vauxhall Frontera glas am 5.45 brynhawn ddoe.

Nid oedd cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw dystion ffonio PC Lightfoot yn yr uned heolydd ar 101.