Fe fydd Noson Lawen arbennig I ddathlu 50fed pen-blwydd Hogia’r Wyddfa yn un o’r cyngherddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni.
Mae tocynnau i gyngherddau’r Eisteddfod wedi mynd ar werth heddiw a bydd Hogia’r Wyddfa yn cael cwmni llawer o wynebau cyfarwydd i’r Noson Lawen ar y nos Lun, gan gynwwys John Ogwen, Trebor Edwards, Tara Bethan, Wil Tân a Dilwyn Morgan.
Fe fydd noson arall yn dathlu gwaith y cyfansoddwr lleol, Robat Arwyn, gyda’r tenor Rhys Meirion, Côr Rhuthun, a chôr arbennig o ferched oedran uwchradd y dalgylch yn perfformio yn y cyngerdd agoriadol.
‘Nosweithiau agos atoch’
Meddai Hywel Wyn Edwards ar drothwy’i Eisteddfod olaf fel Trefnydd, “Dw i’n ffyddiog y bydd y rhaglen gyngherddau eleni’n apelio at nifer fawr o bobol.
“Mae digonedd o adloniant o bob math drwy gydol yr wythnos, a’r gobaith yw y bydd y rhaglen yn apelio at y gynulleidfa yn nalgylch yr Eisteddfod yn ogystal â thrwy Gymru.
“Mae’r rhain yn nosweithiau agos atoch, sy’n gyfle i arddangos nifer fawr o ddoniau, gydag amryw ohonynt wedi cychwyn ar eu gyrfa yn dilyn llwyddiant ar lwyfan y Pafiliwn.”
Gweddill y cyngherddau
- Nos Sadwrn 3 Awst bydd Côr yr Eisteddod yn perfformio’r Meseia gan Handel gyda Nicholas Kraemer yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
- Yn y noson, fe fydd y soprano, Elin Manahan Thomas, yn canu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod. Bydd Gary Griffiths sy’n cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd eleni, Gwyn Hughes Jones a Leah-Marian Jones yn hefyd yn unawdwyr.
- Y Gymanfa Ganu draddodiadol fydd ar nos Sul gyda Beryl Lloyd Roberts yn arwain.
- Ar y nos Fawrth bydd noson i fwynhau talent rhai wnaeth ddechrau ar eu gyrfa yn yr Eisteddfod gan gynnyws Gwawr Edwards ac Elgan Llŷr Thomas.
- Fe fydd y cyngherddau yn dod i ben gyda Bryn Fon a’r Band ar y nos Iau.