Mae cyrff tri o blant wedi cael eu canfod mewn tŷ yn Lowestoft yn Suffolk.
Daw’r canfyddiadau ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn maes parcio ar ôl iddi syrthio i’w marwolaeth.
Yn ol adroddiadau, mam y plant yw’r ddynes.
Daeth yr heddlu o hyd i’r plant ar ôl cael eu galw i ddigwyddiad mewn maes parcio yn y dref.
Dywedodd Heddlu Suffolk mewn datganiad: “Cafodd ardal yn Lowestoft ei chau y bore yma, ddydd Llun 15 Ebrill, wedi i ddynes gael ei chanfod ag anafiadau difrifol i’w phen.
“Aeth yr heddlu i’r digwyddiad yn Heol Gordon ychydig ar ôl 8am.”
Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw’n credu bod y ddynes wedi syrthio o faes parcio.
Bu farw yn y fan a’r lle.
Yn ddiweddarach, yn dilyn ymholiadau, cafodd cyrff y plant eu darganfod yn London Road South yn y dref.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu bod y plant yn dair oed, dwy oed ac 11 mis oed, a’u bod nhw’n trin eu marwolaethau fel rhai amheus.
Bydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal yn y dyddiau nesaf.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.