Mae gwasanaeth coffa wedi ei gynnal i’r 96 o gefnogwyr Lerpwl fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield 24 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd miloedd o gefnogwyr yn bresennol yn stadiwm Anfield heddiw, ynghyd â rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers, prif weithredwr y clwb, Ian Ayre a chwaraewyr a staff y clwb.
Hwn yw’r gwasanaeth coffa cyntaf i’w gynnal ers yr adroddiad damniol ar ymddygiad Heddlu De Swydd Efrog yn ystod gornest Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn 1989.
Ceisiodd adroddiadau’r heddlu roi’r bai am y trychineb ar gefnogwyr Lerpwl, ond penderfynodd arolwg y llynedd fod yr heddlu wedi celu ffeithiau allweddol.
Fe fydd cwestau o’r newydd i’r 96 yn cael eu cynnal eleni.
Yn ystod y gwasanaeth, ddechreuodd am 2.45pm, cafodd enwau’r 96 eu darllen yn gyhoeddus, a chafodd canhwyllau eu cynnau er cof amdanyn nhw.
Cafodd y gynulleidfa ei hannerch gan gadeirydd Lerpwl, John Henry a chadeirydd Everton, Bill Kenwright.
Cafodd munud o dawelwch ei chynnal am 3.06pm, yr union amser ddaeth y gêm i ben wrth i swyddogion y cae sylweddoli bod cefnogwyr wedi cael eu gwasgu ar y terasau.