Mae Neil Taylor yn barod i herio Ben Davies am le yn nhîm Abertawe
Wrth i Neil Taylor barhau i wella o anaf i’w goes sydd wedi’i gadw allan o dîm yr Elyrch y tymor hwn, mae cefnwr de Abertawe, Angel Rangel wedi croesawu’r gystadleuaeth rhwng Taylor a’i eilydd, Ben Davies.
Chwaraeodd Taylor gêm gyfan i dîm dan 21 Abertawe yn Brentford ddydd Llun.
Ond mae ei eilydd, Ben Davies wedi dangos ei ddoniau ar y lefel uchaf y tymor hwn, gan sicrhau ei le yn nhîm Cymru hefyd.
Mae Angel Rangel yn dweud y bydd dewis rhwng Taylor a Davies yn achosi pen tost i’r rheolwr, Michael Laudrup.
“Mae hi bob amser yn hwb i’r tîm pan fydd chwaraewr sydd â doniau fel Tayls yn ymarfer unwaith eto.
“Cafodd e nifer o gemau gyda’r tîm dan 21, ac roedd y ffaith ei fod e wedi chwarae 90 munud cyfan yn gynharach yr wythnos hon yn wych iddo fe.
“Mae e wedi gweithio’n galed iawn, iawn i gael ei hun nôl i siâp, ac rwy’n credu bod ei wellhad wedi bod yn rhyfeddol.
“Y peth gorau yw nad oes rhaid iddo fe ruthro nôl – gall e gymryd ei amser oherwydd bydd e’n gwybod pryd fydd e’n barod.”
“Pan fydd e ar gael i’r tîm cyntaf, bydd gan y rheolwr dipyn o ben tost gan fod Ben wedi gwneud cystal.
“Ond mae hynny’n wych i’r tîm cyfan o gael y math yna o gystadleuaeth.
“Fydd dim ots gan y rheolwr y math yna o ben tost o ran dewisiadau.”
Pleidlais darllenwyr: Pwy ydy’r gorau?
Mae cael Neil Taylor yn holliach yn mynd i achosi cur pen i reolwr Abertawe, a rheolwr Cymru Chris Coleman wrth iddynt geisio dewis rhwng y ddau Gymro dawnus.
Pwy mae darllenwyr Golwg360 yn credu yw’r gorau o’r ddau? Pleidleisiwch isod (pleidlais yn cau ddydd Iau 18 Ebrill).