Gweilch 28–3 Treviso
Cododd y Gweilch yn ôl i’r pedwerydd safle yn nhabl y RaboDirect Pro12 gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Treviso ar y Liberty nos Sadwrn.
Manteisiodd y tîm cartref ar benderfyniad dadleuol i sgorio cais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu dau arall yn yr ail gyfnod. Ond efallai y dylai’r rhanbarth o Gymru fod wedi cipio pwynt bonws o ystyried eu goruchafiaeth dros yr wyth deg munud.
Cyfnewid Ciciau
Ceisiodd y ddau dîm ddangos menter yn gynnar ond roedd yr amodau gwlyb yn golygu fod y gêm yn frith o gamgymeriadau. Brwydr gicio oedd hi felly yn yr hanner awr agoriadol gyda Dan Biggar yn cael y gorau o faswr yr ymwelwyr, Tobias Botes.
Botes a gafodd y gair cyntaf ac er i Biggar daro’r postyn gyda’i gynnig cyntaf fe lwyddodd i unioni pethau gyda’i ail gynnig hanner ffordd trwy’r hanner.
Ychwanegodd ddwy arall mewn cyfnod byr wedi hynny wrth i’r Gweilch fynd chwe phwynt ar y blaen wrth i’r egwyl agosáu.
Cais Dadleuol
Roedd amser am gais cyn y chwiban hanner ond cais braidd yn ddadleuol ydoedd.
Bu bron i’r asgellwr, Ben John, groesi yn y gornel yn dilyn symudiad da ond cafodd ei wthio dros yr ystlys ar yr eiliad olaf. Gwnaeth Treviso lanast llwyr wedi hynny, yn cymryd lein gyflym a chicio’r bêl yn syth yn ôl i John a chyflwyno cais rhwydd iddo.
Ond er gwaethaf blerwch yr Eidalwyr roedd bai mawr ar y dyfarnwyr hefyd. Ni ddylai’r dyfarnwr cynorthwyol fod wedi caniatáu i’r lein gael ei chymryd tu ôl i’r llinell gais yn y lle cyntaf a dylai’r dyfarnwr teledu fod wedi sylwi fod gan John droed dros yr ystlys pan ddaliodd y bêl am yr eildro.
Ail Gais
Daeth ail gais i’r Gweilch wedi deg munud o’r ail hanner pan ddwynodd Biggar y meddiant ar linell ddau ar hugain Treviso cyn croesi o dan y pyst a throsi ei ymdrech ei hunan. Deunaw pwynt o fantais i’r Gweilch gyda hanner awr i fynd felly a’r fuddugoliaeth yn ddiogel i’r Cymry.
O ystyried hynny, dipyn o siom oedd hi na lwyddodd y Gweilch i droi’r pedwar pwynt yn bump gyda phwynt bonws, yn enwedig felly gan iddynt wynebu pedwar dyn ar ddeg am ddeg munud yn dilyn cerdyn melyn i’r eilydd brop, Bees Roux.
Sgoriodd Rhys Webb drydydd chais gyda symudiad olaf y gêm ond doedd dim digon o amser ar ôl i ail ddechrau.
Mae’r fuddugoliaeth yn ddigon serch hynny i godi’r Gweilch yn ôl dros y Scarlets i’r pedwerydd safle holl bwysig yn nhabl y Pro12 gyda dwy gêm ar ôl. Gemau oddi cartref yn erbyn Glasgow a Leinster yw’r gemau rheiny felly mae talcen caled yn wynebu’r Gweilch o hyd os am gyrraedd y gemau ail gyfle.
Ymateb
Maswr y Gweilch a seren y gêm, Dan Biggar.
“Rydyn ni braidd yn rhwystredig ac yn teimlo ein bod ni wedi colli cyfle tuag at y diwedd. Fe wylion ni’r Scarlets yn ennill pedwar pwynt neithiwr, ac fe fyddai wedi bod yn braf i ni gipio un yn fwy, ond roedd digon o bethau cadarnhaol am y perfformiad.”
.
Gweilch
Ceisiau: Ben John 39’, Dan Biggar 50’, Rhys Webb 80’
Trosiadau: Dan Biggar 50’, 80’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 21’, 25’, 32
.
Treviso
Cic Gosb: Tobias Botes 7’
Cerdyn Melyn: Bees Roux 62’
.
Torf: 9,133