Wrecsam 1–2 Kidderminster

Colli fu hanes Wrecsam yn erbyn Kidderminster ar y Cae Ras nos Sadwrn wrth i’r ymwelwyr godi i frig Uwch Gynghrair y Blue Square.

Enillodd Michael Gash y gêm i Kidderminster gyda gôl ugain munud o’r diwedd wedi i Danny Wright unioni i Wrecsam yn dilyn gôl agoriadol James Vincent. Canlyniad siomedig i’r Dreigiau a chanlyniad sy’n rhoi diwedd ar obeithion Casnewydd o ennill dyrchafiad uniongyrchol.

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r meddiant a doedd fawr o syndod eu gweld yn mynd ar y blaen diolch i ergyd Vincent o ochr y cwrt cosbi wedi deunaw munud.

Unionodd Danny Wright y sgôr toc wedi’r awr gyda foli wych o du allan i’r cwrt cosbi ond adferodd Gash y fantais pan gododd y bêl yn gelfydd dros Chris Maxwell yn y gôl i Wrecsam ychydig funudau’n ddiweddarach.

Mae Wrecsam yn aros yn bedwerydd er gwaethaf y golled, ac mae’r canlyniad yn effeithio mwy ar Gasnewydd os rhywbeth, gan nad ydynt hwy bellach yn gallu gorffen ar frig y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Ashton, Walker, Clowes, Artell, Clarke, Hunt (Colbeck 76′), Evans, Wright, Rushton (Reid 11′), Adebola (Ormerod 78′)

Gôl: Wright 62’

Cardiau Melyn: Reid 17’, Ashton 90’

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, Vaughan, Demetriou, Dunkly, Gowling, Storer, Vincent, Jackman (Gittings 75′), Malbon (Rowe 80′), Johnson (Devaney 90′), Gash

Goliau: Vincent 19’, Gash 71’

Cerdyn Melyn: Gittings 82’

.

Torf: 4,013