Jim Davidson
Mae’r comedïwr Jim Davidson wedi gwadu honiadau yn ei erbyn ar ôl iddo gael ei arestio am yr ail waith am droseddau rhyw honedig.
Mae Davidson, 59, yn wynebu honiadau gan “nifer o ferched” ynglŷn â throseddau sy’n dyddio nôl dros 35 o flynyddoedd, meddai ei gyfreithiwr neithiwr.
Cafodd ei arestio eto ddoe, wrth iddo ddychwelyd at yr heddlu yn ôl amodau ei fechnïaeth, ar ôl i’r heddlu dderbyn rhagor o gwynion yn ei erbyn.