Archesgob Caergaint, Justin Welby
Fe fydd arweinwyr crefyddol o bedwar ban byd yn ymuno ag aelodau’r teulu brenhinol a gwleidyddion heddiw wrth i Archesgob Caergaint gael ei orseddu heddiw.
Am y tro cyntaf erioed fe fydd dynes yn gorseddu’r Archesgob.
Fe fydd y Parchedicaf Justin Welby, 57, yn cael ei gyflwyno’n swyddogol fel pennaeth Eglwys Loegr, arweinydd y Cymundeb Anglicanaidd a’r 105ed Archesgob Caergaint mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Caergaint.
Fe fydd y Tywysog Charles a Duges Cernyw ynghyd a’r Prif Weinidog David Cameron ymhlith 2,000 o bobl yn y seremoni. Bydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o grefyddau eraill gan gynnwys Mwslemiaid, Iddewon, Siciaid ac aelodau blaenllaw o’r eglwysi Catholig ac uniongred.
Fe ymddiswyddodd cyn Archesgob Caergaint, y Dr Rowan Williams y llynedd, gan gychwyn ar ei swydd newydd fel Meistr Coleg Magdalen yng Nghaergrawnt ar ddechrau’r flwyddyn.