Christina Edkins
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r ferch ysgol 16  oed gafodd ei thrywanu i farwolaeth ar fws yn Birmingham bore ma.

Cafodd Christina Edkins ei lladd ar fws deulawr oedd yn llawn o deithwyr tua 7.30yb bore ma wrth iddi deithio i Ysgol Uwchradd Leasowes yn Halesowen, Birmingham.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr bod dyn 22 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’i llofruddiaeth.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi cael ei erlid a’i arestio ar ôl cael ei weld yn ymddwyn yn amheus a’i fod yn cael ei ddal ar amheuaeth o lofruddiaeth.