Vicky Pryce
Mae cyn-wraig yr Aelod Seneddol Chris Huhne wedi ei chael yn euog yn Llys y Goron Southwark o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd Vicky Pryce, 60, wedi ei chyhuddo ar ôl iddi dderbyn pwyntiau ar ei thrwydded yrru  ar ran ei chyn-ŵr, yn 2003.

Mae’r ddau bellach wedi gwahanu, ac roedd Vicky Pryce wedi gwadu’r cyhuddiad gan honni bod Chris Huhne wedi ei gorfodi i gymryd y pwyntiau ar ol iddo gael ei ddal yn gor-yrru.

Fe wnaeth Chris Huhne, 58, bledio’n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ym mis Chwefror gan arwain at ei  ymddiswyddiad fel Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Eastleigh, Hampshire.

Methodd y rheithgor yn yr achos gyntaf â dod i benderfyniad fis yn ôl ond roedd y rheithfarn yn yr ail achos yn unfrydol bod Pryce yn euog o’r drosedd. Cafodd ei rhyddhau ar fechniaeth.

Mae Huhne a Pryce yn wynebu cyfnod o garchar am wyrdroi cwrs cyfiawnder. Fe fydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer dedfrydu’r ddau, meddai’r barnwr.

Y cefndir

Mae Vicky Pryce, un o brif economegwyr Llywodraeth Prydain, yn honni bod Chris Huhne yn ddyn uchelgeisiol sy’n fodlon gwneud unrhyw beth i lwyddo.

Yn ystod yr achos, ceisiodd ddefnyddio amddiffyniad sydd ar gael i fenywod yn unig, sef bod ei gŵr wedi ei gorfodi i lofnodi’r papur i ddweud mai hi oedd yn gyrru’r car.

Roedd Pryce wedi honni bod Huhne wedi sefyll yng nghyntedd eu cartref yn chwifio beiro yn ei hwyneb mewn ymgais i’w gorfodi i lofnodi’r papur.

Dywedodd wrth y llys fod Huhne wedi’i gorfodi i gael erthyliad yn 1990 am nad oedd yn amser da i gael plentyn arall oherwydd ei ymrwymiadau gwaith.

Cafodd y pâr blentyn ddwy flynedd yn ddiweddarach, unwaith eto yn wyneb pwysau gan Huhne ar ei wraig i gael erthyliad.

Ond daeth priodas y ddau i ben pan adawodd Huhne ei wraig ar ôl bod mewn perthynas gyda Carina Trimmingham.

Chwalodd perthynas Huhne a’i fab, Peter oherwydd ei gyfaddefiad.