Mae ffigurau newydd gafodd eu rhyddhau heddiw yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i leihau ei allyriadau carbon o 18% ers y llynedd, gan ei rhoi ymhlith y 3 uchaf o holl adrannau Llywodraeth y DU ar dabl effeithlonrwydd ynni.
Fel rhan o’r cynllun effeithlonrwydd ynni gan Lywodraeth y DU, rhaid i 2000 o gwmnïau preifat a sefydliadau sector cyhoeddus gyhoeddi eu hallyriadau, ac ymrwymo i geisio eu lleihau.
Tabl
Mae allyriad Llywodraeth Cymru wedi disgyn o 18,056 tunnell yn 2010-11, i 14,837 tunnell yn 2011-12, lleihad o 18%.
O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i symud i fyny’r tabl yn sylweddol, o’r 320fed safle i 71 yn 2011-12.
Mae’r ffigurau yn ystyried holl adeiladau’r Llywodraeth a Cadw, yr adran sy’n gwarchod treftadaeth Cymru, a’r rhwydwaith o gefnffyrdd yng Nghymru.
‘Arwain drwy esiampl’
Dywedodd John Griffiths, y gweinidog amgylchedd a chynaliadwyedd: “Rydym yn benderfynol o arwain drwy esiampl gan sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud yr hyn sydd o fewn ei gallu i leihau ein hallyriadau carbon a’n heffaith ar yr amgylchedd.
“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos llwyddiant ein buddsoddiad mewn mesurau arbed ynni ac adeiladau newydd, mwy, sy’n fwy effeithlon na’r hen adeiladau. Hefyd, rydym yn gwella’r modd o reoli carbon ar ein rhwydwaith o gefnffyrdd, ein cestyll, ein safleoedd treftadaeth ynghyd â’n hadeiladau sy’n gartref i amrywiaeth o fusnesau Cymru.”