Dirprwy weinidog yn cyfaddef fod “problemau gwirioneddol” yn y sector gofal cymdeithasol
Fe wnaeth Julie Morgan feio “swyddi mwy deniadol” yn y sectorau lletygarwch a manwerthu” am yr “argyfwng recriwtio” yn y …
Cymeradwyo pilsen Covid-19 i’w chymryd yn y cartref
Bydd Molnupiravir ar gyfer pobol sydd wedi cael prawf positif ac sydd â chyflwr gwaelodol
61% o bobol dros 80 oed sydd wedi’u brechu’n llawn wedi cael atgyfnerthiad
Mwy na 57% o bobol 75-79 oed a 45% o bobol 70-74 oed wedi cael trydydd dos hefyd
Gofal dementia yng Nghymru yn “gwbl annigonol”, medd Beti George
“Dwi’n gobeithio y bydd y gofal i bobl sy’n byw â dementia yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim, i bawb”
Pryder ynghylch llai o bobol yn gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus
Llefarydd iechyd Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth “i wneud rhywbeth gwahanol” i gryfhau’r negeseuon fod gwisgo gorchudd yn …
Galw am ganolfannau galw i mewn ar gyfer y brechlyn Covid-19
Mae Russell George, llefarydd iechyd yr wrthblaid, yn credu y gall hynny leihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd dros y gaeaf
Cwmni newydd yn datblygu therapi newydd at fathau o ganser sy’n gyffredin yng Nghymru
Bydd Ceridwen Oncology, sydd wedi’i leoli ar Ynys Môn, yn datblygu canfyddiadau meddygol prifysgolion Bangor a Chaerdydd yn driniaethau meddygol
Cynnydd wythnosol bychan mewn marwolaethau Covid-19 yng Nghymru
Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar 81 o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 22 Hydref 2021
Ceidwadwyr yn beirniadu gostyngiad yn nifer gwlâu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru
“Mae angen mwy o wlâu arnon ni, nid llai, os ydyn ni am adfer o’r pandemig a mynd i’r afael â’r amseroedd aros enfawr”
‘Dylid gohirio ei gwneud hi’n orfodol i staff iechyd yn Lloegr gael eu brechu nes y gwanwyn’
Byddai colli nifer uchel o staff sydd heb eu brechu, yn enwedig dros y gaeaf, yn peryglu diogelwch cleifion, meddai un o arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd