Gwenno Williams
Mae Gwenno Williams yn un sy’n croesawu’r camau diweddaraf i roi lle amlwg i’r iaith ym maes iechyd…
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fframwaith newydd sy’n barhad o’r cynllun ‘Mwy na Geiriau’ a fydd yn sicrhau gwell defnydd o’r Gymraeg ym maes iechyd.
Bwriad y fframwaith yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg trwy weithredu egwyddor ‘Cynnig Rhagweithiol’, lle gall cleifion ddisgwyl gwasanaeth cyfrwng Cymraeg heb ofyn amdano, a thrwy sicrhau gweithlu dwyieithog yn y dyfodol.
Pwysleisio’r Gymraeg
Dyma newyddion arbennig i fyfyrwyr meysydd iechyd fel fi sydd ar fin graddio a chwilio am swyddi yma yng Nghymru.
Mae’n braf gweld bod y Cynulliad o’r diwedd yn gweld pwysigrwydd y Gymraeg i gleifion, ac i’r proffesiynau iechyd.
Mae’r byrddau iechyd yma yng Nghymru yn barod yn rhoi pwyslais ar gyflogi siaradwyr Cymraeg; eleni, rwyf yn ymgeisio am swyddi o fewn ysbytai Cymru ac mae bob un yn dweud bod sgiliau ieithyddol Cymraeg yn ddymunol.
Felly, trwy osod pwyslais ar sicrhau siaradwyr Cymraeg o fewn y GIG, bydd modd denu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith i aros yma yng Nghymru, gan felly adeiladu gweithlu dwyieithog Drakeford.
Denu mwy
Ond sut mae sicrhau bod myfyrwyr yn dewis defnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i ysgol uwchradd?
Mae cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Dafydd Trystan, wedi siarad am gynyddu’r nifer o fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gynnig cymhelliant ariannol, ond meddai bod angen “gwneud mwy i ddenu myfyrwyr i’r maes iechyd”.
Ar hyn o bryd, gallwch ond dderbyn swm ariannol o’r Coleg Cymraeg os ydych yn astudio meddygaeth neu nyrsio yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy’r Gymraeg.
Rhaid felly ehangu hyn er mwyn sicrhau bod myfyrwyr pob cwrs iechyd ym mhob prifysgol yng Nghymru yn gymwys i dderbyn rhodd ariannol fel cymhelliant i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau proffesiynol.
Sgiliau ychwanegol
Er nad yw’r cwrs fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig modiwlau Cymraeg ar hyn o bryd, mae pennaeth yr ysgol yn credu’n gryf mewn rhoi’r cyfle i ni’r myfyrwyr i ymarfer ac i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn yr ysgol fel bod gennym sgil ychwanegol i gynnig i gyflogwyr yn y dyfodol.
Gallwn fynychu sesiynau cyfathrebu Cymraeg, er mwyn ymarfer sgiliau hanfodol megis cwestiynu cleifion am eu meddyginiaeth yn y Gymraeg.
Mae’r ysgol hefyd wedi cyflogi tri aelod o staff newydd yn ddiweddar a fydd yn gyfrifol am ehangu ar y ddarpariaeth o wersi a sesiynau Cymraeg, ac i hybu’r proffesiwn mewn ysgolion uwchradd Cymraeg ledled Cymru.
Rhaid felly i ysgolion arall o fewn Prifysgol Caerdydd dilyn esiampl ein hysgol fferylliaeth wrth iddi ddangos ei bod hi’n bosib dysgu agweddau hanfodol y cwrs trwy’r Gymraeg.
Dechrau’n gynt
Ond rhaid ddechrau’n gynt nag ar lefel addysg uwch. Fel y dywedodd prif weithredwr Cyngor Gofal Cymru, Rhian Williams, er mwyn galluogi gweithlu’r dyfodol i fod yn ddwyieithog mae’n rhaid dangos i blant ysgol bod y Gymraeg yn iaith y gweithle, yn ogystal ag iaith yr ysgol.
Rhaid iddynt weld y Gymraeg fel rhywbeth gwerthfawr o fewn y byd gwaith, a’i bod hi’n fantais yn hytrach na rhwystr ym maes iechyd.
Gyda’r Llywodraeth yn buddsoddi £1.2miliwn y flwyddyn er mwyn symud triniaeth niwrolegol i’r gymuned, a’r gyriant ar hyn o bryd i geisio trin cleifion yn eu cartrefi yn hytrach na’r ysbyty yn y dyfodol, bydd galw am weithwyr Cymraeg eu hiaith o fewn y GIG yn cynyddu.
Felly dw i’n meddwl y bydd cynllun diweddaraf Mark Drakeford yn un hynod o lwyddiannus.
Mae fel petai’r Llywodraeth wedi sylweddoli’r hyn sydd yn eglur i siaradwyr Cymraeg yn barod – mae “siarad eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal – nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol”, felly gall y fframwaith ond fod yn beth positif.
Mae Gwenno Williams yn fyfyrwraig fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.