Yng nghyfarfod misol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eglurodd Dr Chris Stockport, cyfarwyddwr gweithredol y Bwrdd Iechyd fod cynlluniau i gynnig brechiadau torfol gam yn agosach.
Mae’n bosib y gallai brechu torfol ddechrau yng ngogledd Cymru fis Rhagfyr.
Nid yw’r manylion yn gwbl glir eto, ond gallai’r brechlyn coronafeirws fod ar gael i bobol fregus erbyn y Nadolig.
“Rydym yn y broses o gadarnhau’r cynlluniau, mae’r dyddiad dechrau yn edrych ychydig yn gliriach, ac ychydig yn agosach,” meddai Dr Chris Stockport.
“Byddwn mewn sefyllfa dda yng ngogledd Cymru i wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddarparu’r brechiad hwnnw pan fydd ar gael.
“Mae’n siŵr y gall pobol ddychmygu y bydd dosbarthiad yn seiliedig ar risg.
“Mae’n deg dweud ein bod wedi gwneud datblygiadau da o ran gweithio allan sut y caiff hynny ei gyflawni a bydd angen i bawb weithio mewn ffordd gyfunol.”
Mae arbenigwyr yn credu bydd yn cymryd tua 12 mis i frechu pawb ledled y byd sydd angen eu brechu.