Mae Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol Abertawe wedi dweud fod hi’n amhosib profi pob myfyriwr cyn iddyn nhw ddychwelyd adref am y Nadolig.
Disgrifiodd Dr Andrew Rhodes, sydd yn gyfrifol am 21,500 o fyfyrwyr y Brifysgol, gynllun Llywodraeth Cymru fel un “anymarferol”.
Daw hyn wedi i Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, amlinellu’r cynlluniau i ddarparu profion i bob un myfyriwr yng Nghymru i sicrhau eu bod yn medru treulio’r Nadolig gyda’u teuluoedd.
“Mae profion Asymptotig yn golygu bydd rhaid profi pob myfyrwyr ddwywaith gyda bwlch o dri diwrnod rhwng y prawf cyntaf a’r ail brawf,” meddai Dr Andrew Rhodes.
“Byddai’n amhosib profi pob myfyriwr cyn iddynt deithio adref o ystyried yr amserlenni tynn iawn sydd ar waith.
“Felly, byddwn yn atgoffa myfyrwyr i gadw at reolau’r Brifysgol a’r Llywodraeth yn ymwneud â Covid er mwyn cadw eu hunain, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn ddiogel.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylai addysgu wyneb yn wyneb ddod i ben erbyn Rhagfyr 8 – bydd hynny’n digwydd ar Ragfyr 4 ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae disgwyl i’r profion fod yn barod ar gyfer Prifysgolion erbyn diwedd mis Tachwedd, ond eglurodd Dr Andrew Rhodes wrth BBC Radio Wales nad oedd hyn yn caniatáu digon o amser i brofi pawb.
“Mae prifysgolion yn Lloegr, lle maen hyn wedi bod yn cael ei dreialu, wedi bod yn profi 1,500 o fyfyrwyr y dydd gan ddefnyddio 45 o aelodau staff i wneud hynny,” meddai.
“Os fyddwn ni’n profi 21,500 o bobol ddwywaith, ar y gyfradd honno o 1,500 o brofion y dydd, byddai’n cymryd mis i ni – mae gennym oddeutu tri diwrnod.”
Prifysgol Aberystwyth
Ni ddaeth cwynion cyffelyb o du Prifyysgol Anerystwyth, fodd bynnag, a roddodd groeso i’r cynlluniau. Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am yr egwyddorion er mwyn caniatáu i fyfyrwyr deithio adref ar gyfer y Nadolig, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
“Rydym yn cymryd rhan mewn trafodaethau cynllunio gyda’r llywodraeth am gyflawni’r cynllun profi i fyfyrwyr cyn iddynt adael.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos iawn gyda phartneriaid er mwyn lleihau lledaeniad y feirws, gan gynnwys y trefniadau profi.
“Rydym yn ddiolchgar am yr holl waith sydd wedi digwydd hyd yma, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad oes trosglwyddiad wedi bod i’r gymuned ehangach o’r clwstwr bach o achosion ymhlith myfyrwyr.
“Byddwn ni’n parhau i flaenoriaethu iechyd ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, byddwn yn cefnogi myfyrwyr i barhau i wneud dewisiadau cyfrifol, ac, i’r rheini sy’n teithio, i wneud hynny mor ddiogel ag sy’n bosibl.”
Ad-dalu costau
Yn y cyfamser, mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru wedi dweud y dylid rhoi ad-daliadau i fyfyrwyr am gostau llety, o ystyried y canllawiau y dylid cynllunio ar gyfer teithio erbyn 9 Rhagfyr.
Dywedodd llywydd yr Undeb Becky Ricketts: “Nawr ei bod yn amlwg y bydd disgwyl i fyfyrwyr adael llety yn ystod y tymor yn gynharach nag arfer, credwn y dylai myfyrwyr sy’n gadael o fewn yr amserlen a gynghorir gael ad-daliadau am yr wythnosau na fyddant yn eu llety.”