Gyda chyllid Ewropeaidd i Gymru yn dirwyn i ben, bydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi – ddiwedd y mis ar y cynharaf – sut y byddan nhw’n camu i’r adwy.

Yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, wnaeth Amanda Milling, Cadeirydd y Blaid Geidwadol, gadarnhau y byddai manylion yn cael eu cyhoeddi wedi’r adolygiad gwariant nesa’.

Felly mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch cynlluniau’r Llywodraeth – a sut y byddan nhw’n ariannu gwneud i fyny am yr arian fydd Cymru yn colli yn sgil Brexit – wedi Tachwedd 25.

Mae Cymru wedi derbyn bron i £2bn ers 2014 trwy gyllid strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r arian yma wedi mynd at brosiectau gan gynnwys ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai ‘Cronfa Ffyniant Gyffredin’ yn dod i rym wedi Brexit, ond mae’r Cymry yn aros o hyd am fanylion.

Ymateb ASau Cymru

Dyw cadarnhad heddiw ddim wedi calonogi holl gynrychiolwyr Cymru yn San Steffan.

“Braf yw gweld rhywfaint o fynd ar y Gronfa ffyniant Gyffredin,” meddai cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS.

“Ond mae hynny’n golygu na fydd llawer o amser i graffu ar y cynlluniau, ac i ymgynghori.

“Os yw hyn yn wir, mae’n ffordd uffernol o fwrw ati,” meddai Chris Elmore, AS Llafur Ogwr.

“[Byddai’n golygu bod] Rhagor o addewidion wedi’u torri, ac [yn arwain at] ddirywiad pellach mewn ffydd rhwng Torïaid a phobol Cymru.”