Mae Bahrain, Cambodia, Chile, Gwlad yr Iâ, Laos, Qatar, Turks a Caicos, a’r Emiraethau Arabaidd Unedig wedi cael eu tynnu oddi ar restr cwarantîn Llywodraeth Cymru.

Ond bydd dim modd i awyrennau na llongau sy’n teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc lanio na docio ym mhorthladdoedd Cymru.

Eglurodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, iddo ddod i’r penderfyniad ar ôl adolygu asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch.

“Rwyf wedi penderfynu y bydd meysydd awyr Sofran Akrotiri a Dhekelia ar ynys Cyprus a Groeg, ac eithrio ynysoedd Rhodes, Kos, Corfu, Creta a Zakynthos (Zante), yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio,” meddai.

“Felly bydd rhaid i deithwyr o’r gwledydd hynny hunanynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

“Rwyf hefyd wedi penderfynu y dylid ychwanegu’r gwledydd a thiriogaethau a ganlyn at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio; Bahrain, Cambodia, Chile, Gwlad yr Iâ, Laos, Qatar, Turks a Caicos, a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.

“Felly ni fydd rhaid i deithwyr o’r gwledydd hyn hunanynysu bellach pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

“Gwneir diwygiad pellach i nodi na fydd awyrennau teithwyr a llongau sy’n teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc, a’r llwythi y maent yn eu cludo, bellach yn gallu glanio na docio mewn porthladdoedd yng Nghymru.”

Bydd y rheolau newydd yn dod i rym am 04:00 y bore ddydd Sadwrn Tachwedd 14.