Guto Rhys Huws
Guto Rhys Huws sydd yn dadlau pwysigrwydd y bleidlais ddiweddar ar fabis tri pherson …
Wythnos diwethaf fe bleidleisiwyd o blaid creu babis gyda DNA o dri pherson – dyn a dwy ddynes.
‘Sgwn i beth oedd eich ymateb pan glywsoch hyn ar y newyddion? Teimlo fod gwyddoniaeth, unwaith yn rhagor, wedi llwyddo i wella bywydau pobl am byth?
Neu farn gwbl i’r gwrthwyneb? Oeddech chi’n pendroni fod gwyddoniaeth wedi mynd gam yn rhy bell y tro hwn? A bod cwestiynau mawr ynglŷn â moesoldeb wedi cael eu hanwybyddu?
Neu oeddech chi rhywle yn y canol? Yn credu fod hyn yn beth da oherwydd bod modd atal afiechydon sy’n cael effaith erchyll ar fywydau’r unigolion hyn ac sy’n dorcalonnus i’r teuluoedd, ond yn teimlo’n sgeptig o’r syniad o ddefnyddio DNA o dri pherson gwahanol i greu bywyd?
Dw i’n amau’n gryf fod y rhan fwyaf ohonoch chi yn perthyn i’r trydydd grŵp.
Mae’r Aelodau Seneddol wedi gwneud y penderfyniad cywir, a gadewch i mi egluro pam.
Beth yw mitocondrion?
Meddyliwch amdano fel batri celloedd y corff. Ei swydd – trawsnewid egni o fwyd i fath defnyddiol er mwyn galluogi’r gell i wneud ei waith.
Mae gan y mwyafrif llethol o gelloedd y corff fitocondria, ac mae’r niferoedd o fitocondria ym mhob cell yn dibynnu ar anghenion egni’r gell honno.
Er enghraifft, mae celloedd cyhyr yn cynnwys niferoedd uchel o fitocondria er mwyn cynnal ystum a’n galluogi i godi gwrthrychau, ond hefyd i gadw curiad y galon i fynd ac i symud bwyd o fewn y coluddyn.
Mae gan gelloedd yr ymennydd anghenion egni uchel hefyd oherwydd eu prif swyddogaeth yw cyfathrebu gyda gweddill y corff – swydd sy’n galw am faint sylweddol o egni, felly mae angen digon o fatris, digon o fitocondria.
Gydag eithriad celloedd coch y gwaed, mae gan bob un o gelloedd y corff fitocondria. Dychmygwch felly, pa mor ddinistriol buasai’r effeithiau petai rywbeth yn mynd o’i le yng nghynhyrchiad yr organynnau bach hyn. Y canlyniad – afiechyd mitocondriol.
Poen, dioddefaint a salwch
Felly beth yw’r symptomau? Mwy neu lai unrhyw beth allwch feddwl amdano, a mwy. Ac yn waeth fyth, mae effeithiau’r afiechyd yn amlygu eu hunain yn ystod plentyndod.
Mae’r rhain yn cynnwys diffyg tyfiant, colli cyd drefniant cyhyr, gwendid cyhyr, problemau dysgu, clefyd y galon, clefyd yr iau, clefyd yr aren, abnormaleddau yn y coluddyn mawr a bach, abnormaleddau anadlol, problemau nerfegol, problemau clywed, problemau gyda’r llygaid a hyd yn oed dementia.
Mae dioddef gyda dim ond un o’r cyflyrau hyn yn wanychol, ond dychmygwch ddioddef â nifer ohonynt.
Mae’r unigolion sy’n dioddef o afiechyd mitocondrial yn byw bywyd llawn poen, dioddefaint a salwch sydd, yn y pen draw, yn arwain at farwolaeth gynnar (yn ystod plentyndod yn y rhai anlwcus iawn, iawn).
A beth am y rhieni? Yn debyg i’r unigolion sy’n cael eu heffeithio – poen a dioddefaint. Oes unrhyw beth yn waeth na gweld eich plentyn eich hun yn dioddef trwy gydol ei fywyd?
Does dim syndod fod nifer fawr o rieni plant sy’n dioddef o afiechyd mitocondriol wedi croesawu’r newyddion fod cynlluniau i atal yr afiechyd yn mynd yn eu blaen.
‘Babanod-tri-rhiant’ neu ‘babanod-tri-pherson’?
Mae’r cyntaf o’r uchod yn anghywir, mae’r ail yn gywir i raddau. Bydd y ddynes a roddodd y mitocondria yn cael ei chadw’n gwbl anhysbys a bydd ganddi ddim hawl o gwbl dros y plentyn, yn union fel sy’n digwydd gydag IVF.
Dim ond DNA o fitocondria’r rhoddwr fydd yn cael ei basio ymlaen i’r plentyn, sef llai na 0.01% o’r holl DNA.
Mae’r DNA hyn yn cynnwys y wybodaeth i alluogi’r mitocondria i weithredu’n gywir, a dim byd arall. Dyma yw’r pwynt pwysig.
Mae’r nodweddion sy’n ein diffinio ni fel unigolion – taldra, personoliaeth, lliw gwallt, lliw llygaid – yn cael ei reoli gan DNA o’r proniwclews (hanner DNA mam, a hanner DNA dad).
Felly mae’r ddadl fod hyn yn annog y syniad o designer babies yn bwynt sy’n gwbl amherthnasol.
Dinistrio embryo
Mae wy’r fam ac wy’r rhoddwr yn cael eu ffrwythloni er mwyn creu dau embryo. Yna caiff y proniwclews o’r ddau embryo eu tynnu, a bydd y proniwclews o embryo’r fam yn cael ei drawsnewid i embryo’r rhoddwr (sy’n cynnwys y mitocondria iach).
Mae’r dull hwn yn golygu bod dinistrio embryo yn rhan o’r broses – dyna yw ei wendid. Fel y gallwch chi ddisgwyl, mae gwrthwynebiad cryf yn erbyn hyn gan yr eglwys Gatholig.
Y peth sydd angen ei bwysleisio yw bod bywyd ar ei bwynt cynharaf tra bydd hyn yn digwydd.
Pan fydd dynes yn cael erthyliad, mae bywyd yn fwy datblygedig – ond mae’r mwyafrif ohonom o blaid hyn beth bynnag. Mae’n bris isel i’w dalu i arbed einioes o ddioddefaint.
Mae rhai yn dweud fod hyn yn rhywbeth annaturiol ac yn anfoesol. Annaturiol? Mae meddyginiaeth yn annaturiol ond maen nhw’n ein gwella ar ôl salwch.
Mae llawdriniaethau yn annaturiol ond maen nhw’n ein galluogi i wneud trawsblaniad i achub bywyd.
Mae brechlynnau yn annaturiol ond maen nhw’n ein hamddiffyn rhag heintiau marwol.
Anfoesol? Yr unig beth anfoesol fysa gwneud dim, a chaniatáu rhywbeth allai gael ei atal.
Mae Guto Rhys Huws yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.