Mae’r Swyddfa Dwyll Difrifol (SFO) wedi cael ei gorchymyn i dalu costau o tua £6 miliwn i chwech o bobol o Gymru gafodd eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo, mewn cysylltiad â gwerthiant pedwar safle glo brig.
Clywodd Llys Cyfiawnder Caerdydd bod cais yr SFO i erlyn y cyn-gyfreithiwr Eric Evans, ei bartner gwaith Alan Whiteley a’r cyfreithiwr cynorthwyol Frances Bodman yn “amhriodol ac afresymol”.
Roedd y tri yn cael eu cyhuddo o sefydlu cwmni newydd i ddelio a thaliadau gwerth £170 miliwn gan geisio osgoi cyfrifoldeb cwmni Celtic Energy, a’r cyn-gyfarwyddwyr Richard Walters a Leighton Humphrey, i adnewyddu pedwar safle glo brig yn ne Cymru.
Roedd yr SFO yn dweud bod y dynion yn ceisio twyllo cynghorau Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Phowys, yn ogystal â’r Awdurdod Glo.
Fe wnaeth yr SFO hefyd gyhuddo’r dirprwy Farnwr yn yr Uchel Lys, Stephen Davies QC, wedi iddo ddyfarnu fod y cynllun yn gyfreithlon.
Cefndir
Cafodd yr achos ei daflu allan o’r llys am yr eildro ym mis Tachwedd 2014, wedi i’r barnwr, Mr Ustus Hickinbottom ddweud nad oedd unrhyw gyfraith wedi ei thorri.
Yn sgil hynny, mae’r SFO wedi ei gorchymyn i dalu’r costau cyfreithiol.
“Mae hwn wedi bod yn achos cymhleth o’r dechrau i’r diwedd,” meddai’r arbenigwr twyll o gwmni cyfreithwyr Blackfords, Philip Williams, oedd yn cynrychioli Eric Evans.
“Roedd methiannau systematig yn y ffordd yr oedd yr SFO wedi cynnal eu hymchwiliad, ac nid dyma yw’r tro cyntaf i hynny ddigwydd.”
Ychwanegodd: “Bydd cwestiynau yn cael eu codi am waith yr SFO.”