Bydd cyfle i anturwyr fentro i ddyfnderoedd Cwm Penmachno a Thanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, gyda lansiad un o’r anturiaethau tanddaearol hiraf yn y byd yr wythnos hon.

Mae’r cwrs 5 cilomedr yn cynnwys  y wifren wib ddyfnaf yn y byd, gyda chyfle i ddisgyn yn rhydd dros 70 troedfedd gan fentro 1,300 troedfedd dan y ddaear.

Bydd yr atyniad yn agor yr wythnos hon yn dilyn pum mlynedd o waith i’w sefydlu gan y cwmni Go Below.

Mae Blaenau Ffestiniog a’r cyffiniau yn datblygu’n gyrchfan boblogaidd i  bobl anturus, gyda dyfodiad y llwybr beic a’r wifren wib yn Chwarel y Llechwedd yn profi’n llwyddiant ysgubol.