Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth anesboniadwy dyn yn ei 80au mewn cartref gofal, meddai’r heddlu.

Mae dynes yn ei 50au, sydd â chysylltiad â chartref gofal Sowerby House yn Sowerby, Thirsk, wedi cael ei harestio meddai Heddlu Gogledd Swydd Efrog.

Cafodd swyddogion eu galw i’r cartref tua 3.20yp ddydd Mercher ar ôl i un o’r trigolion gael ei ddarganfod yn farw yn ei ystafell.

Yn dilyn ymchwiliad ac asesiad fforensig, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod  amheuaeth nad oedd anafiadau’r dyn yn rhai damweiniol.

Cafodd y ddynes ei harestio neithiwr ac mae’n cael ei holi gan yr heddlu.

Mae teulu’r dyn yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu.