Celf disgyblion Bro Hyddgen fel rhan o Wythnos Euskara Cymru
Ym mis Ionawr, cafodd gŵyl Wythnos Euskara Cymru ei chynnal ym Mro Ddyfi i ddathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Gwlad y Basg.
Yma, mae tair o ddisgyblion Ysgol Bro Hyddgen yn rhannu’u hatgofion am yr ŵyl, gan sôn am debygrwydd yr iaith, y gerddoriaeth a’r celf…
Alaw Jones – ‘iaith unigryw’
Dwi’n siŵr nad ydych erioed wedi clywed am yr iaith hon o’r blaen? A dwi ddim yn eich beio chi. Cyn i’r prosiect ddechrau, doedd gen i ddim syniad bod gwlad fach rhwng De Ffrainc a Gogledd Sbaen, ac yn bendant ddim yn gwybod am eu hiaith. Os ewch chi i’r wlad rhwng Ffrainc a Sbaen, pa iaith byddwch chi’n siarad? Ffrangeg neu Sbaeneg? Na, mae pobol Gwlad y Basg yn siarad Euskara!
Iaith arbennig ydy iaith Euskara. Mae hi mor unigryw a lliwgar wrth wrando arni.
Mae cysylltiad amlwg rhwng y ddwy iaith, Cymraeg ac Euskara. Maen nhw’n un o’r niferus ieithoedd lleiafrifol hynaf yn Ewrop sy’n dal yn cael ei siarad gan nifer angerddol o bobol o gymharu â gwledydd mwyaf y byd.
Rhai o’r geirfa dw i’n cofio ydy “Sut wyt ti?” Zer moduz?; “Hwyl fawr/wela i chi eto” Gero arte.
Ac yn olaf, “Diolch” Eskerrikasko.
Myfanwy Fenwick – Gwirioni ar y Gambara
Cawsom yr anrhydedd o fynychu arddangosfa gan yr artist Juan Gorriti yn y Tabernacl, ac yn wir, roedd gweld gwaith artist cyfoes mor adnabyddus yn gyfle unigryw.
Roedd pob darn o’r gwaith yn arddangos elfennau cryf o wreiddiau Basgaidd gan gynnwys y defnydd o’r lliw glas cynnes sy’n adlewyrchu cariad Gorritti at yr awyr uwch ei wlad.
Ymhlith y cerfluniau disglair a’r portreadau difyr, fy hoff ddarn oedd y Gambara. Ffrâm draddodiadol sy’n crogi o’r nenfwd mewn tai Basgaidd gan ddal eiddo yw’r Gambara.
Pan glywais y byddwn ni, disgyblion blwyddyn 10 Ysgol Bro Hyddgen, yn cael cyfle i weithio gyda’r artist Cymreig Luned Rhys Parry i ail greu ein Gambara ein hunain roeddwn wedi gwirioni!
Roedd hyn yn gyfle i ddatblygu ein dealltwriaeth o gelf mewn diwylliannau arall. Felly, gyda thua ugain o fy nghyd-ddisgyblion dyma ni’n gweithio’n ddiwyd i gynhyrchu môr o wrthrychau amryliw ar gyfer ein Gambara ein hunain, gan ymgorffori’r glas oedd mor bwysig i Gorriti yn ein gwaith.
Yn yr eiliad yna, daeth hi’n amlwg pa mor unigryw yw’r berthynas rhwng y Cymry a’r Basgiaid. Roedd yn anghredadwy sut roedd dwy wlad fach wedi llwyddo i estyn llaw ac adeiladu pont o gyfeillgarwch dros 1060 o filltiroedd, ac roeddwn i’n teimlo’n freintiedig o gael bod yn rhan ohono!
Cerys Hafana – Mwynhau’r gerddoriaeth werin
Un o’r pethau gorau am yr wythnos Fasgeg ym Machynlleth oedd derbyn dau floc enfawr o gaws gan y band Bitartean, oedd wedi benthyg ein gitâr ac allweddell am yr wythnos.
Digwyddodd hyn ar ddiwedd noson wych yn Nhal-y-Bont, lle cefais gyfle i chwarae caneuon ar y delyn deires cyn y band.
Un o’r pethau gorau am y band, heblaw am eu hegni gwych nhw, oedd y defnydd gwahanol o offerynnau; y tambwrin trawiadol a’r defnydd o biano mewn cerddoriaeth werin.
Ar ôl lot fawr o gwtshys Basgaidd (tata, ysgwyd dwylo) cefais fagnet oergell siâp dafad, wedi’i addurno â’r faner Fasgaidd.
“Mae ganddyn nhw lot fawr o ddefaid yng Ngwlad y Basg hefyd”, esboniodd y ddynes roddodd hi i fi.
Ar y noson ganlynol roeddwn yn canu’r delyn deires yn y Tabernacl gyda fy athrawes Rhiain Bebb. Roedd Gwilym Bowen Rhys a’i fand yno, Osian Morris, a’r prif fand Bidaia sy’n cynnwys yr ‘unig chwaraewr hyrdi gyrdi yng Ngwlad y Basg.’
Roedd y noson yn lot fawr o hwyl a chlywais hyrdi gyrdi yn fyw am y tro cyntaf erioed.