Neil Hamilton Llun: Senedd.tv
Mae John Bercow wedi amddiffyn ei sylwadau na ddylai Donald Trump gael annerch y Senedd, gan ddweud wrth Aelodau Seneddol ei fod wedi ymddwyn yn “onest” wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn wynebu galwadau i ystyried ei sefyllfa ar ôl iddo ymddangos ei fod wedi awgrymu bod Arlywydd yr Unol Daleithiau yn “hiliol” a bod  gwaharddiad Donald Trump ar deithwyr o saith gwlad Mwslemaidd yn golygu ei fod yn gwrthwynebu “hyd yn oed yn fwy” y gwahoddiad iddo ddod i’r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth John Bercow ei sylwadau diweddaraf yn y Senedd ddydd Mawrth wrth i rai ddangos eu cefnogaeth ac eraill fynegi pryder am ei sylwadau gan ddweud y dylai aros yn ddiduedd.

‘Pryderus iawn’

Yn y cyfamser mae arweinydd plaid UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi ysgrifennu llythyr at Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl iddi ddweud ar Twitter neithiwr na fyddai Donald Trump yn cael ei groesawu i’r Senedd chwaith.

Wrth gyfeirio at sylwadau John Bercow dywedodd Elin Jones: “da iawn,”…. “a chyn bod unrhyw un yn gofyn, byddai dim lle iddo yn y llety hwn chwaith.”

Ond yn ei lythyr, mae Neil Hamilton wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” am sylwadau Elin Jones mewn cyfnod pan mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio sicrhau cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau.

Mae’n cyfeirio at y berthynas rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau gan ddweud fod 22% o allforion Cymru yn mynd i America.

‘Hollol anghyfrifol’

Meddai Neil Hamilton: “Fe fyddai’n hollol anghyfrifol i roi swyddi yng Nghymru mewn perygl drwy wahardd yr Arlywydd Trump rhag ymweld â’r Senedd. Mewn gwirionedd, fe ddylwn ni fod yn annog Llywodraeth y DU i gynnwys Cymru fel rhan o’i ymweliad gwladol.”

Ychwanegodd bod grŵp Ukip yn annog y Llywydd i beidio efelychu safiad John Bercow ar y mater.

Dywedodd bod gan y DU berthynas ddiplomyddol “gyda nifer o wledydd nad ydyn ni’n cytuno a’u polisïau ond nid ydym yn sarhau eu harweinwyr yn gyhoeddus.”

Fe gyfeiriodd Neil Hamilton at y ffaith bod yn rhaid i’r Llywydd aros yn ddiduedd ac y gallai cyhuddiadau o’r fath sy’n wynebu John Bercow arwain at alwadau ar Elin Jones “i ystyried ei sefyllfa.”