’Sdim llawer o bethau’n gwneud i mi ddeffro fel siot ar y penwythnos. Ond wrth bendwmpian i Bore Sul ar Radio Cymru dan law Bethan Rhys Roberts yn ddiweddar, mi gefais ’sgytwad. Trafod stori am ddeallusrwydd artiffisial oeddan nhw, ac un o’r cyfranwyr yn dweud ei bod “yn ffan mowr o AI” ac yn ei ddefnyddio’n gyson yn ei gwaith cysylltiadau cyhoeddus megis “i gyfieithu nifer o bethe” i’r Gymraeg. Dechreuais deimlo’n giami. Aeth ymlaen i ddweud bod rhaglen o’r enw ChatGPT yn gwneud y joban mewn chwinciad iddi, a “95%” o’r cyfieithiad yn gywir yn ei barn PR hi.

Ro’n i’n gwbl effro a sâl fel ci erbyn hyn.

Ydy, mae’r dechnoleg wedi gwella’n aruthrol dros y blynyddoedd, a’n llywodraeth ni’n buddsoddi’n helaeth i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon yr e-chwyldro newydd. Dyma’r broliant o’r Bae ym mis Chwefror eleni:

“Fel rhan o bartneriaeth Llywodraeth Cymru â Microsoft, maen nhw wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd o fewn cyfarfodydd Microsoft Teams …datblygu technoleg i droi Cymraeg llafar yn destun ysgrifenedig, creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl sy’n colli’r gallu i siarad, datblygu cyfieithu peirianyddol arbenigol, a gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae eu sgwrsfot mwyaf pwerus, GPT-4, yn prosesu’r Gymraeg.”

Dw i’n fymryn o ragrithiwr fan hyn. Achos fel cyfieithydd proffesiynol sy’n gorfod llowcio, dysgu a chofio cannoedd o jargons gwleidyddion a gwasanaethau cyhoeddus, mae meddalwedd cof cyfieithu wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cymorth mewn cyfyngder. Yn enwedig os taw ddoe oedd y dyddiad dychwelyd neu lle mae angen doethuriaeth i ddeall y Saesneg gwreiddiol. Meddalwedd lle rydan ni’n arbed pob darn o waith cyfieithu yn y cof canolog, gan sicrhau bod jargons swyddogol a brawddegau stoc yn ymddangos yn otomatig wrth saernïo darn tebyg yn y dyfodol.

Ond ar ddiwedd y dydd, dw i a ’nghydweithwyr yn sgolorion y Gymraeg â sawl cymhwyster arall, tystysgrif aelodaeth Cymdeithas y Cyfieithwyr a blynyddoedd o brofiad. Dw i yn fy elfen yn trin geiriau, yn addasu ar gyfer y gynulleidfa, yn defnyddio Cymraeg Clir. Ydi ChatGPT yn gwybod pryd i ddefnyddio “ti” neu “chi”, yn nabod ei idiomau, yn ymwybodol o gyfoeth tafodieithol yr iaith?

Dyn ni gyd wedi gweld enghreifftiau o sefydliadau a chwmnïau yn torri corneli, yn troi at Google Translate neu’n gofyn i Melanie o’r adran Adnoddau Dynol i gyfieithu brawddeg yma ac acw achos bod ganddi TGAU Cymraeg ail iaith. Rydan ni gyd wedi gweld sawl ymgais aflwyddiannus ar ein ffyrdd neu gan archfarchnadoedd – o Tesco Cwmbrân yn cynnig “Alcohol am ddim” (Alcohol-Free)…

… i un Abertawe yn gwerthu “Sboncen” fel diod ffrwythau…

Mae ambell wleidydd diog wrthi hefyd, fel Virginia Crosbie, cyn-Aelod Seneddol Torïaidd Môn ddefnyddiodd beiriant cyfieithu ar gyfer ei gwefan yn 2020, gan drosi enw ffatri cywion ieir “2 Sisters plant” fel “… bydd 2 chwaer-blanhigyn yn talu cyflog llawn i weithwyr”. Ac mae rhywun weithiau’n amau ai AI sy’n sgriptio i S4C. Roedd y ddrama Cleddau yn cynnwys ambell ddeialog boenus, fel “… ar ôl iddo fe gyffurio a chrogi…” am y Saesneg ‘drugged’.

Ydy, mae’n hawdd chwerthin os nad crïo efo’r enghreifftiau hyn.

Mi adawaf i hafan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sydd â 392 o aelodau ar hyn o bryd, groniclo’r cyfan:

“Mae cyfieithu da a chywir, p’un ai’n ysgrifenedig neu’n llafar, yn waith arbenigol. Crefft yw hi. Mae angen sgiliau penodol, yn ogystal â phrofiad a chyfle i ddatblygu yn y gwaith, ac i fireinio’r grefft honno os am allu cynhyrchu gwaith o safon uchel. Nid yw’r gallu i siarad dwy iaith yn gwneud rhywun yn gyfieithydd nac yn gyfieithydd ar y pryd.”

A-men i hynna! A ’nôl a fi o dan y dwfé.