I ddechrau, stori am Abraham Lincoln (1809-1865). Roedd y Rhyfel Cartref yn ei anterth, a Lincoln yn annerch tyrfa o bobol. Wrth siarad, torrodd dyn ar ei draws, gan ofyn pam nad oedd yr Arlywydd Lincoln, o’i safle o rym a dylanwad, yn syml ddatgan fod caethwasiaeth bellach ar ben, a’r caethweision yn rhydd bob un. Credai hwn o’r dyrfa fod ateb syml iawn i sefyllfa eithriadol ddyrys. “Gwrandewch,” meddai Lincoln wrtho, “Pe bawn i’n dweud wrthych mai coes oedd cynffon yr oen, sawl coes fuasai gan yr oen?” “Pump,” atebodd y dyn. “Nage wir!” atebodd Lincoln, “Pedair! Dydy galw cynffon yn goes ddim yn golygu mai coes yw’r gynffon.”

Ers yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, gwelsom wleidyddion amlwg yn lafurus-fwriadol yn datod pwythau’r addewidion mawr a wnaethpwyd ganddyn nhw cyn y pleidleisio. A hwythau wedi llwyddo i argyhoeddi pobol mai “coes yw’r gynffon”, mae’r gwleidyddion hyn bellach yn prysur ddadlau na fu iddyn nhw erioed awgrymu fod cynffon yn unrhyw beth ond cynffon. Mae’r gwirionedd syml, diaddurn, disglair-galed am beth fydd yn digwydd nawr yn mygu o dan drwch o eiriau gwag a gor-addunedau ofer.

Ta faint bynnag mae pobol – pwy bynnag y bôn nhw – yn mynnu mai “coes yw’r gynffon”, erys cynffon yn gynffon. Rhaid bellach wrth ddidwylledd a thrylwyredd. Yn y ddau beth hyn, mae iechyd a gobaith i’n gwleidyddiaeth a’n gwleidydda.

Os nad ydym yn fodlon derbyn hyn o sefyllfa gyda rhyw ‘fel’na mae hi’ a ‘fel’na bydd hi’ o ymateb, bydd angen i chi a fi osod esiampl i’n gwleidyddion, trwy feithrin trylwyredd a didwylledd yn ein hymwneud â’n gilydd fel unigolion, eglwysi, ac fel cymunedau ffydd a diwylliant. Anodd hyn, ond anhepgor mewn cyfnod na wyddom i ba gyfeiriad i droi.

Ni fu erioed fwy o angen am bobol yn amlygu nad ‘coes yw’r gynffon’, a hynny trwy ddewis byw yn ddidwyll dryloyw.