Dyma gyfres newydd o eitemau sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Simon Avery o Gaerffili sy’n dweud pam mai Mynydd Preseli yn Sir Benfro yw ei hoff le yng Nghymru…


Simon Avery dw i. Ces i fy magu yng Nghaerffili. Es i i’r brifysgol yng Nghaeredin, felly ro’n i’n byw yn yr Alban am ychydig o flynyddoedd ond dw i’n byw yng Nghaerffili unwaith eto nawr.

Mynydd Preseli yn Sir Benfro yw fy hoff le yng Nghymru.

Mae Mynydd Preseli yn teimlo’n eithaf gwyllt a hynafol. Pan mae hi’n braf, mae’r golygfeydd yn syfrdanol. Gallwch chi weld y môr yn y pellter a bwncathod yn yr awyr. Ond mae’r tywydd yn gallu newid yn gyflym. Weithiau, mae copaon yn diflannu tu ôl i’r cymylau ac wedyn mae’n teimlo bod y byd modern wedi diflannu hefyd.

Dw i wedi bod yn sâl dros y misoedd diwethaf, felly dw i ddim wedi ymweld â Mynydd Preseli eleni, ond weithiau, pan dw i’n aros yn yr ysbyty dros nos, dw i’n trio dychmygu crwydro o gwmpas yr ardal.

Foel Drygarn

Mae sawl safle archeolegol pwysig ym Mynydd Preseli, megis y cylch cerrig hynafol ‘Gors Fawr’ a’r fryngaer ‘Foel Drygarn’.